SL(6)361 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023. Maent yn gwneud diwygiadau i reoliadau caffael cyhoeddus amrywiol yn y Deyrnas Unedig at ddiben rhoi dau Gytundeb Masnach Rydd y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt ar waith, un ag Awstralia (“CMR y DU-Awstralia”) a’r llall â Seland Newydd.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud y diwygiadau cyffredinol a ganlyn i reoliadau caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau a wneir yn CMR y DU-Awstralia:

·         cyflwyno’r rheol, pan na ellir amcangyfrif gwerth caffaeliad, fod y caffaeliad i’w drin fel pe bai ei werth wedi ei bennu ar y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gaffaeliad (gan gynnwys darpariaeth arbennig ar gyfer sefyllfaoedd pan na ellir amcangyfrif gwerth un neu ragor o lotiau);

 

·         dileu’r posibilrwydd o ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw neu hysbysiad dangosol cyfnodol fel yr alwad am gystadleuaeth; a

 

·         gwahardd awdurdodau contractio a chyfleustodau rhag terfynu contractau mewn modd sy’n osgoi rhwymedigaethau yn CMR y DU-Awstralia.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol.

Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau datganoledig Cymreig ac maent yn dod i rym ar 26 Mai 2023.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnod pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) 2023 er mwyn mynd i'r afael â'r pwyntiau adrodd technegol a nodwyd gan y Pwyllgor hwn yn ei adroddiad ar y Rheoliadau hynny.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrir y confensiwn 21 diwrnod (hynny yw, y confensiwn y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r confensiwn, a ddarparwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 23 Mai 2023.

Yn benodol, nodwn fod y llythyr yn dweud:

“Effaith …[y Rheoliadau hyn]… fydd cyflawni rhwymedigaeth i weithredu'r Cytundebau Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia a'r DU a Seland Newydd mewn perthynas ag awdurdodau Cymreig datganoledig, i osgoi unrhyw anghydfodau posibl gyda'r aelod-wladwriaethau a/neu eu cynigwyr ac osgoi ansicrwydd a allai gael effaith ar gynigwyr y DU i'r marchnadoedd caffael hyn.  Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud Rheoliadau tebyg a ddaw i rym ar 25 Mai 2023.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw at y confensiwn 21 diwrnod oherwydd y ffaith bod angen i'r…[Rheoliadau hyn]…ddod i rym i gyd-fynd â Rheoliadau Llywodraeth y DU yn dod i rym er mwyn i'r Cytundebau Masnach Rydd gael eu gweithredu'n llawn ar draws y Deyrnas Unedig.  Mae gan Reoliadau Llywodraeth y DU a'r…[Rheoliadau hyn]…ddarpariaethau cysylltiedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i rym yn olynol. Rhoddwyd ymrwymiad i Awstralia a Seland Newydd y bydd y Rheoliadau mewn grym erbyn 26 Mai 2023 fan bellaf.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

25 Mai 2023